Y Helfa
Dyna gath yn loetran ar lwybrau llygod ar y comin
Ei synhwyrau mewn cywair a phob glaswelltyn.
Mae synau traffig ar yr heol a threnau yn rhuglo
Dros bont y rheilffordd, a’r sŵn didostur
Y lladdwr gwair o’r stad, i gyd
Dim mwy na gwynt yn chwythu trwy ei byd.
Mae hi yn yr helfa, yn ddyfal ar drywydd
Arogl pob anifail bach anweledig.
Gwyliwn o'r ffens neu ffenestr, yn ymwybodol
O bob sŵn car neu fodur rhewgell yn switsio
I'n meddyliau; mae hi'n adlamu,
Golchi ei choes ôl, cerdded tua'r tai
I rannu'r ysbeiliau, yn anymwybodol
O fydau anghyson tra mae'r briwgig mecanyddol
yn cwympo o'r tun i’r ddysgl. Yn orlawn,
mae'n troi, tan yr helfa nesaf, i gwsg teilwng.